Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Ioan 4:1-21

1 Ioan 4:1-21 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy’n dweud eu bod nhw’n siarad drwy’r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw’n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas. Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un sy’n cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw. Ond os ydy rhywun yn gwrthod cydnabod hyn am Iesu, dydy hwnnw ddim yn dod oddi wrth Dduw. Mae’r ysbryd sydd gan y person hwnnw yn dod oddi wrth elyn y Meseia. Dych chi wedi clywed ei fod yn mynd i ddod. Wel, y gwir ydy, mae e eisoes ar waith. Ond blant annwyl, dych chi’n perthyn i Dduw. Dych chi eisoes wedi ennill y frwydr yn erbyn y proffwydi ffals yma, am fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer na’r un sydd yn y byd. I’r byd annuwiol maen nhw’n perthyn, ac maen nhw’n siarad iaith y byd hwnnw, ac mae pobl y byd yn gwrando arnyn nhw. Ond dŷn ni’n perthyn i Dduw, felly’r rhai sy’n nabod Duw sy’n gwrando arnon ni. Dydy’r rhai sydd ddim yn perthyn i Dduw ddim yn gwrando arnon ni. Dyma sut mae gwybod os mai Ysbryd y gwirionedd neu ysbryd twyll sydd gan rywun. Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy’n caru fel hyn wedi’i eni’n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw. Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw. Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni. Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni’n caru’n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni. Dŷn ni’n gwybod ein bod ni’n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni. A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i fod yn Achubwr y byd. Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. Dŷn ni’n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni’n dibynnu’n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae’r rhai sy’n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw. Am fod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni’n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni’n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw. Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni’n ofnus mae’n dangos ein bod ni’n disgwyl cael ein cosbi, a’n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu’n llwyr gan gariad Duw. Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf. Pwy bynnag sy’n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae’n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae’n ei weld, sut mae e’n gallu caru’r Duw dydy e erioed wedi’i weld? Dyma’r gorchymyn mae Duw wedi’i roi i ni: Rhaid i’r sawl sy’n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.

1 Ioan 4:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd. Dyma sut yr ydych yn adnabod Ysbryd Duw: pob ysbryd sy'n cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd, o Dduw y mae, a phob ysbryd nad yw'n cyffesu Iesu, nid yw o Dduw. Ysbryd yr Anghrist yw hwn; clywsoch ei fod yn dod, ac yn awr y mae eisoes yn y byd. Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd. I'r byd y maent hwy'n perthyn, ac o'r byd, felly, y daw'r hyn y maent yn ei ddweud; ac y mae'r byd yn gwrando arnynt hwy. O Dduw yr ydym ni; y mae'r hwn sy'n adnabod Duw yn gwrando arnom ni, a'r hwn nad yw o Dduw, nid yw'n gwrando arnom ni. Dyma sut yr ydym yn adnabod ysbryd y gwirionedd ac ysbryd cyfeiliornad. Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw. Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd. Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd. Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw. Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau. Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad. Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. Os dywed rhywun, “Rwy'n caru Duw”, ac yntau'n casáu ei gydaelod, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld. A dyma'r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd.

1 Ioan 4:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd eisoes. Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd. Hwynt-hwy, o’r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendy arnynt. Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni. Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd. A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd. Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd? A’r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i’r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd