1 Ioan 3:8-9
1 Ioan 3:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n mynnu pechu yn dod o’r diafol. Dyna mae’r diafol wedi’i wneud o’r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i’r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol. Dydy’r rhai sydd wedi’u geni’n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi’i blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dŷn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni’n blant i Dduw.
1 Ioan 3:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw.
1 Ioan 3:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.