1 Ioan 3:8-10
1 Ioan 3:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw. Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod.
1 Ioan 3:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n mynnu pechu yn dod o’r diafol. Dyna mae’r diafol wedi’i wneud o’r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i’r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol. Dydy’r rhai sydd wedi’u geni’n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi’i blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dŷn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni’n blant i Dduw. Felly mae’n gwbl amlwg pwy sy’n blant i Dduw a phwy sy’n blant i’r diafol: Dydy’r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy’n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru’r brodyr a’r chwiorydd.
1 Ioan 3:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd.