1 Ioan 3:4-6
1 Ioan 3:4-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae pawb sy’n pechu yn torri’r Gyfraith; yn wir, gwneud beth sy’n groes i Gyfraith Duw ydy pechod. Ond dych chi’n gwybod fod Iesu wedi dod er mwyn cymryd ein pechodau ni i ffwrdd. Does dim pechod o gwbl ynddo fe, felly does neb sy’n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy’r rhai sy’n dal ati i bechu ddim wedi’i ddeall na’i nabod e.
1 Ioan 3:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gwneud anghyfraith hefyd; anghyfraith yw pechod. Yr ydych yn gwybod bod Crist wedi ymddangos er mwyn cymryd ymaith bechodau; ac ynddo ef nid oes pechod. Nid oes neb sy'n aros ynddo ef yn pechu; nid yw'r sawl sy'n pechu wedi ei weld ef na'i adnabod ef.
1 Ioan 3:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod. A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef.