1 Ioan 3:3-11
1 Ioan 3:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac y mae pob un y mae'r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur. Y mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gwneud anghyfraith hefyd; anghyfraith yw pechod. Yr ydych yn gwybod bod Crist wedi ymddangos er mwyn cymryd ymaith bechodau; ac ynddo ef nid oes pechod. Nid oes neb sy'n aros ynddo ef yn pechu; nid yw'r sawl sy'n pechu wedi ei weld ef na'i adnabod ef. Blant, peidiwch â gadael i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Y mae'r sawl sy'n gwneud cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae ef yn gyfiawn. O'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw. Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod. Oherwydd hon yw'r genadwri a glywsoch chwi o'r dechrau: ein bod i garu ein gilydd.
1 Ioan 3:3-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pawb sydd â’r gobaith hwn ganddyn nhw yn eu cadw eu hunain yn lân, fel mae’r Meseia ei hun yn berffaith lân. Mae pawb sy’n pechu yn torri’r Gyfraith; yn wir, gwneud beth sy’n groes i Gyfraith Duw ydy pechod. Ond dych chi’n gwybod fod Iesu wedi dod er mwyn cymryd ein pechodau ni i ffwrdd. Does dim pechod o gwbl ynddo fe, felly does neb sy’n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy’r rhai sy’n dal ati i bechu ddim wedi’i ddeall na’i nabod e. Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae’r Meseia yn gyfiawn. Mae’r rhai sy’n mynnu pechu yn dod o’r diafol. Dyna mae’r diafol wedi’i wneud o’r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i’r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol. Dydy’r rhai sydd wedi’u geni’n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi’i blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dŷn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni’n blant i Dduw. Felly mae’n gwbl amlwg pwy sy’n blant i Dduw a phwy sy’n blant i’r diafol: Dydy’r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy’n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru’r brodyr a’r chwiorydd. Dyma’r neges dych chi wedi’i chlywed o’r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu’n gilydd.
1 Ioan 3:3-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur. Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod. A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef. O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd.