1 Ioan 3:17-18
1 Ioan 3:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto’n dewis gwneud dim byd i’w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly? Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!
Rhanna
Darllen 1 Ioan 31 Ioan 3:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 31 Ioan 3:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 3