1 Ioan 3:14-24
1 Ioan 3:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth. Llofrudd yw pob un sy'n casáu ei gydaelod, ac yr ydych yn gwybod nad oes gan unrhyw lofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau. Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd. Dyma sut y cawn wybod ein bod o'r gwirionedd, a sicrhau ein calonnau yn ei ŵydd ef pryd bynnag y bydd ein calon yn ein condemnio; oherwydd y mae Duw yn fwy na'n calon, ac y mae'n gwybod pob peth. Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw, ac yr ydym yn derbyn ganddo ef bob dim yr ydym yn gofyn amdano, am ein bod yn cadw ei orchmynion ac yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd. Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni. Y mae'r sawl sy'n cadw ei orchmynion ef yn aros ynddo ef, ac ef ynddo yntau. Dyma sut yr ydym yn gwybod ei fod ef yn aros ynom ni: trwy'r Ysbryd a roddodd ef inni.
1 Ioan 3:14-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni’n caru’n gilydd, ac felly’n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw’n ysbrydol i fod yn fyw’n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw’n ysbrydol. Mae unrhyw un sy’n casáu brawd neu chwaer yn llofrudd, a does gan lofrudd ddim bywyd tragwyddol. Dyma sut dŷn ni’n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth droson ni. Felly dylen ni aberthu’n hunain dros ein cyd-Gristnogion. Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto’n dewis gwneud dim byd i’w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly? Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad! Dim ond felly mae bod yn siŵr ein bod ni’n perthyn i’r gwir. Dyna’r unig ffordd i gael tawelwch meddwl pan fyddwn ni’n sefyll o flaen Duw, hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo’n euog a’r gydwybod yn ein condemnio ni. Cofiwch, mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e’n gwybod am bob dim. Ffrindiau annwyl, os ydy’r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw. Gan ein bod yn ufudd iddo ac yn gwneud beth sy’n ei blesio, bydd yn rhoi i ni beth bynnag ofynnwn ni amdano. A dyma’i orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu’n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni. Mae’r rhai sy’n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni’n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi’r Ysbryd i ni.
1 Ioan 3:14-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef. Oblegid os ein calon a’n condemnia, mwy yw Duw na’n calon, ac efe a ŵyr bob peth. Anwylyd, os ein calon ni’n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw. A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni. A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.