1 Ioan 2:27-29
1 Ioan 2:27-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio – ac mae’r Ysbryd a’ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi – does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae’r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â’r peth! Felly gwnewch beth mae’n ei ddweud – glynwch wrth Iesu. Felly, blant annwyl, glynwch wrth Iesu. Wedyn, pan ddaw yn ôl i’r golwg gallwn fod yn gwbl hyderus, a heb ddim cywilydd. Dych chi’n gwybod ei fod e’n hollol gyfiawn, felly dylech wybod hefyd fod pawb sy’n gwneud beth sy’n iawn yn blant iddo.
1 Ioan 2:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef. Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad. Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, yna fe ddylech wybod bod pob un sy'n gwneud cyfiawnder wedi ei eni ohono ef.
1 Ioan 2:27-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond y mae’r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y’ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo. Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad. Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.