1 Ioan 2:1-6
1 Ioan 2:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mhlant annwyl, dw i’n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda’r Tad sy’n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy’n berffaith gyfiawn a da. Fe ydy’r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau’r byd i gyd. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n ei nabod e ac yn perthyn iddo – drwy fod yn ufudd iddo. Mae’r bobl hynny sy’n dweud, “Dw i’n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e’n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i’r gwir. Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw’n ddweud, mae’n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n perthyn iddo: rhaid i bwy bynnag sy’n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu’n byw.
1 Ioan 2:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn; ac ef sy'n aberth cymod dros ein pechodau, ac nid dros ein pechodau ni yn unig, ond hefyd bechodau'r holl fyd. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn ei adnabod ef, sef ein bod yn cadw ei orchmynion. Y sawl sy'n dweud, “Rwyf yn ei adnabod”, a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo; ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef: dylai'r sawl sy'n dweud ei fod yn aros ynddo ef rodio ei hun yn union fel y rhodiodd ef.
1 Ioan 2:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd. Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.