1 Ioan 1:5-6
1 Ioan 1:5-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma’r neges mae e wedi’i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. Felly, os ydyn ni’n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto’n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae’n amlwg ein bod ni’n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i’r gwir.
1 Ioan 1:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd
1 Ioan 1:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch. Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd