1 Ioan 1:4-10
1 Ioan 1:4-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni’n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus. Dyma’r neges mae e wedi’i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. Felly, os ydyn ni’n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto’n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae’n amlwg ein bod ni’n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i’r gwir. Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod. Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni. Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e’n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e’n cadw ei air ac yn gwneud beth sy’n iawn. Os ydyn ni’n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni’n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae’n amlwg bod ei neges e’n cael dim lle yn ein bywydau ni.
1 Ioan 1:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yr ydym ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i'n llawenydd fod yn gyflawn. Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch. Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd; ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder. Os dywedwn nad ydym wedi pechu, yr ydym yn ei wneud ef yn gelwyddog, ac nid yw ei air ef ynom ni.
1 Ioan 1:4-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd: Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.