1 Ioan 1:1-4
1 Ioan 1:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr un sydd wedi bodoli o’r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi’i glywed e a’i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â’n llygaid ein hunain, a’i gyffwrdd â’n dwylo! Gair y bywyd! Daeth y bywyd ei hun i’r golwg, a dŷn ni wedi’i weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni’n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda’r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. Ydyn, dŷn ni’n sôn am rywbeth dŷn ni wedi’i weld a’i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi’r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda’i Fab, Iesu y Meseia. Dŷn ni’n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
1 Ioan 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld â'n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo, ynglŷn â gair y bywyd, dyna'r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. Amlygwyd y bywyd hwn; ac yr ydym wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol a oedd gyda'r Tad ac a amlygwyd i ni. Yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb â ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb ni gyda'r Tad a chyda'i Fab ef, Iesu Grist. Ac yr ydym ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i'n llawenydd fod yn gyflawn.
1 Ioan 1:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd; (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;) Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist. A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.