1 Corinthiaid 9:24-27
1 Corinthiaid 9:24-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy’n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg – fel rhai sy’n benderfynol o ennill. I gystadlu yn y gemau mae’n rhaid i athletwyr hyfforddi’n galed. Maen nhw’n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dŷn ni’n ymdrechu am goron fydd yn para am byth! Felly dw i ddim yn rhedeg fel rhywun sydd wedi colli golwg ar y nod; a dw i ddim yn bocsio dim ond i ddyrnu’r awyr. Na, dw i’n gwthio fy hun i’r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr – rhag i mi, ar ôl cyhoeddi’r neges i bobl eraill, gael fy ngwahardd rhag ennill y wobr fy hun!
1 Corinthiaid 9:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill. Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy. Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â'r nod yn sicr o'i flaen. Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy'n curo'r awyr â'i ddyrnau. Yr wyf yn cernodio fy nghorff, ac yn ei gaethiwo, rhag i mi, sydd wedi pregethu i eraill, fy nghael fy hun yn wrthodedig.
1 Corinthiaid 9:24-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel y caffoch afael. Ac y mae pob un a’r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt-hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig. Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo’r awyr: Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.