1 Corinthiaid 8:9-13
1 Corinthiaid 8:9-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a’ch “hawl i ddewis” yn achosi i’r rhai sy’n ansicr faglu. Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti’n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i’r person welodd di deimlo’n hyderus, a bwyta cig sydd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau? Felly bydd y crediniwr sy’n ansicr yn gweithredu’n groes i’w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di’n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw! Wrth wneud i Gristion arall weithredu’n groes i’w gydwybod fel hyn, rwyt ti’n pechu yn erbyn y Meseia. Felly, os ydy beth dw i’n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.
1 Corinthiaid 8:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond gwyliwch rhag i'r hawl yma sydd gennych fod yn achos cwymp mewn unrhyw fodd i'r rhai gwan. Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod? Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto. Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist. Am hynny, os yw bwyd yn achos cwymp i'm cydgredadun, ni fwytâf fi gig byth, rhag i mi achosi cwymp i'm cydgredadun.
1 Corinthiaid 8:9-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid. Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod; Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist. Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.