1 Corinthiaid 8:4-6
1 Corinthiaid 8:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, ydy hi’n iawn i ni fwyta cig sydd wedi’i aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni’n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.” Hyd yn oed os oes rhai sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‘dduwiau’ ac ‘arglwyddi’ eraill), dŷn ni’n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy’r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni’n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod drwyddo, a’r un sy’n rhoi bywyd i ni.
1 Corinthiaid 8:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, ynglŷn â bwyta'r hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, gwyddom nad oes “dim eilun yn y cyfanfyd”, ac nad oes “dim Duw ond un”. Oherwydd hyd yn oed os oes rhai a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear—fel yn wir y mae “duwiau” lawer ac “arglwyddi” lawer— eto, i ni, un Duw sydd—y Tad, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac un Arglwydd Iesu Grist—cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni.
1 Corinthiaid 8:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,) Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.