Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 8:1-13

1 Corinthiaid 8:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ynglŷn â bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod, y mae'n wir, fel y dywedwch, “fod gennym i gyd wybodaeth.” Y mae “gwybodaeth” yn peri i rywun ymchwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu. Os oes rhywun yn tybio iddo ddod i wybod rhywbeth, nid yw eto'n gwybod fel y dylai wybod. Os oes rhywun yn caru Duw, y mae wedi ei adnabod gan Dduw. Felly, ynglŷn â bwyta'r hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, gwyddom nad oes “dim eilun yn y cyfanfyd”, ac nad oes “dim Duw ond un”. Oherwydd hyd yn oed os oes rhai a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear—fel yn wir y mae “duwiau” lawer ac “arglwyddi” lawer— eto, i ni, un Duw sydd—y Tad, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac un Arglwydd Iesu Grist—cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni. Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. Y mae rhai, oherwydd eu bod hyd yma wedi arfer ag eilunod, yn dal i fwyta'r bwyd fel peth wedi ei aberthu i eilunod; ac y mae eu cydwybod, gan ei bod yn wan, yn cael ei llygru. Nid bwyd sy'n mynd i'n cymeradwyo ni i Dduw. Nid ydym ar ein colled o beidio â bwyta, nac ar ein hennill o fwyta. Ond gwyliwch rhag i'r hawl yma sydd gennych fod yn achos cwymp mewn unrhyw fodd i'r rhai gwan. Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod? Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto. Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist. Am hynny, os yw bwyd yn achos cwymp i'm cydgredadun, ni fwytâf fi gig byth, rhag i mi achosi cwymp i'm cydgredadun.

1 Corinthiaid 8:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

I droi at eich cwestiwn am gig wedi’i aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni’n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu. Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw’n gwybod dim byd mewn gwirionedd. Ond mae Duw yn gwybod pwy sy’n ei garu, ac mae’n gofalu amdanyn nhw. Felly, ydy hi’n iawn i ni fwyta cig sydd wedi’i aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni’n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.” Hyd yn oed os oes rhai sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‘dduwiau’ ac ‘arglwyddi’ eraill), dŷn ni’n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy’r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni’n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod drwyddo, a’r un sy’n rhoi bywyd i ni. Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw’n bwyta’r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi’i aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw’n cael ei niweidio am ei bod hi’n gydwybod wan. “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith. Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a’ch “hawl i ddewis” yn achosi i’r rhai sy’n ansicr faglu. Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti’n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i’r person welodd di deimlo’n hyderus, a bwyta cig sydd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau? Felly bydd y crediniwr sy’n ansicr yn gweithredu’n groes i’w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di’n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw! Wrth wneud i Gristion arall weithredu’n groes i’w gydwybod fel hyn, rwyt ti’n pechu yn erbyn y Meseia. Felly, os ydy beth dw i’n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.

1 Corinthiaid 8:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu. Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod. Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef. Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,) Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef. Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir. Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach. Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid. Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod; Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist. Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.