1 Corinthiaid 6:16-18
1 Corinthiaid 6:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda’r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai’r ysgrifau sanctaidd. Ond mae’r sawl sy’n clymu ei hun i’r Arglwydd yn rhannu’r un Ysbryd â’r Arglwydd. Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy’n effeithio ar y corff yr un fath. Mae’r person sy’n pechu’n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
1 Corinthiaid 6:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff â hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, “Bydd y ddau yn un cnawd.” Ond y sawl sy'n ymlynu wrth yr Arglwydd, y mae'n un ysbryd ag ef. Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
1 Corinthiaid 6:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd. Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw. Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.