1 Corinthiaid 6:1-8
1 Corinthiaid 6:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan mae gynnoch chi achos yn erbyn Cristion arall, sut allwch chi feiddio mynd i lys barn? Rhannwch y peth gyda’ch cyd-Gristnogion, iddyn nhw ddelio gyda’r mater. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu’r byd”? Felly os byddwch chi’n barnu’r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn? Rhaid i chi gofio y byddwn ni’n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni’n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma! Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi’n gofyn i bobl y tu allan i’r eglwys ddelio gyda’r mater! Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy’n ddigon doeth i ddelio gyda’r math yma o beth? Ydy’n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? – a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu? Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â’i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai’n well petaech chi’n diodde’r cam, ac yn gadael i’r person arall eich twyllo chi! Ond na, mae’n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!
1 Corinthiaid 6:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os oes gan un ohonoch gŵyn yn erbyn un arall, a yw'n beiddio mynd â'i achos gerbron yr annuwiol, yn hytrach na cherbron y saint? Oni wyddoch mai'r saint sydd i farnu'r byd? Ac os yw'r byd yn cael ei farnu gennych chwi, a ydych yn anghymwys i farnu'r achosion lleiaf? Oni wyddoch y byddwn yn barnu angylion, heb sôn am bethau'r bywyd hwn? Felly, os bydd gennych achosion fel hyn, a ydych yn gosod yn farnwyr y rhai sydd isaf eu parch yng ngolwg yr eglwys? I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr? A yw credinwyr yn mynd i gyfraith â'i gilydd, a hynny gerbron anghredinwyr? Yn gymaint â'ch bod yn ymgyfreithio o gwbl â'ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli'r dydd. Pam, yn hytrach, na oddefwch gam? Pam, yn hytrach, na oddefwch golled? Ond gwneud cam yr ydych chwi, peri colled yr ydych, a hynny i gydgredinwyr.
1 Corinthiaid 6:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint? Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf? Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn? Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys. Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr? Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di-gred? Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled? Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr.