1 Corinthiaid 5:6-8
1 Corinthiaid 5:6-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy’r toes i gyd”? – mae’n effeithio ar bawb! Rhaid cael gwared ohono – ei daflu allan, a dechrau o’r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi’i aberthu droson ni, fel oen y Pasg. Gadewch i ni ddathlu’r Ŵyl, dim gyda’r bara sy’n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.
1 Corinthiaid 5:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid yw eich ymffrost yn weddus. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does? Glanhewch yr hen lefain allan, ichwi fod yn does newydd, croyw, fel yr ydych mewn gwirionedd. Oherwydd y mae Crist, ein Pasg ni, wedi ei aberthu. Am hynny cadwn yr ŵyl, nid â'r hen lefain, nac ychwaith â lefain malais a llygredd, ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.
1 Corinthiaid 5:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni: Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.