1 Corinthiaid 5:11
1 Corinthiaid 5:11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Na, beth roeddwn i’n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i’w wneud â rhywun sy’n galw’i hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw’n anfoesol, neu’n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu’n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly!
1 Corinthiaid 5:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio â chymysgu â neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed â bwyta gydag un felly.
1 Corinthiaid 5:11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun-addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.