1 Corinthiaid 5:1-5
1 Corinthiaid 5:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae’n waeth na beth fyddai’r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda’i lysfam, gwraig ei dad! A dych chi’n dal yn falch ohonoch chi’ch hunain? Dylai’r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi’ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu’r dyn, a’i droi allan o gymdeithas yr eglwys? Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi’r ddedfryd gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddewch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd), taflwch y dyn allan o’r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i’w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw’r Arglwydd Iesu yn ôl.
1 Corinthiaid 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Adroddir fel ffaith fod yna anfoesoldeb rhywiol yn eich plith, a hwnnw'r fath anfoesoldeb na cheir mohono hyd yn oed ymhlith y paganiaid, bod rhyw ddyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad. A dyma chwi, yn llawn ymffrost! Onid eich lle chwi oedd galaru, a bwrw allan o'ch plith yr un a wnaeth y fath beth? Oherwydd dyma fi, yn absennol yn y corff, ond yn bresennol yn yr ysbryd, eisoes wedi rhoi dyfarniad, fel un sy'n bresennol, ar y dyn a wnaeth y fath weithred: bod i chwi, ynghyd â'm hysbryd innau, wedi ymgynnull yn enw ein Harglwydd Iesu, a gallu ein Harglwydd Iesu gyda ni, draddodi'r fath ddyn i Satan er mwyn dinistrio'r cnawd, a thrwy hynny achub ei ysbryd yn Nydd yr Arglwydd.
1 Corinthiaid 5:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad. Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon. Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly, Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist, Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.