1 Corinthiaid 5:1-2
1 Corinthiaid 5:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae’n waeth na beth fyddai’r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda’i lysfam, gwraig ei dad! A dych chi’n dal yn falch ohonoch chi’ch hunain? Dylai’r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi’ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu’r dyn, a’i droi allan o gymdeithas yr eglwys?
1 Corinthiaid 5:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Adroddir fel ffaith fod yna anfoesoldeb rhywiol yn eich plith, a hwnnw'r fath anfoesoldeb na cheir mohono hyd yn oed ymhlith y paganiaid, bod rhyw ddyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad. A dyma chwi, yn llawn ymffrost! Onid eich lle chwi oedd galaru, a bwrw allan o'ch plith yr un a wnaeth y fath beth?
1 Corinthiaid 5:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad. Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.