1 Corinthiaid 4:1-6
1 Corinthiaid 4:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylech chi’n hystyried ni fel gweision i’r Meseia – gweision sydd â’r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw. Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon. Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy’n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy’n bwysig hyd yn oed! Mae nghydwybod i’n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i’n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy’n cyfri. Felly peidiwch cyhoeddi’ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i’r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i’r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i’r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae’n ei haeddu gan Dduw. Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi’n stopio honni fod un yn well na’r llall wedyn.
1 Corinthiaid 4:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded i bob un ein cyfrif ni fel gweision Crist a goruchwylwyr dirgelion Duw. Yn awr, yr hyn a ddisgwylir mewn goruchwylwyr yw eu cael yn ffyddlon. O'm rhan fy hun, peth bach iawn yw cael fy ngosod ar brawf gennych chwi, neu gan unrhyw lys dynol. Yn wir, nid wyf yn eistedd mewn barn arnaf fy hun. Nid oes gennyf ddim ar fy nghydwybod, ond nid wyf drwy hynny wedi fy nghael yn ddieuog. Yr Arglwydd yw fy marnwr i. Felly peidiwch â barnu dim cyn yr amser, nes i'r Arglwydd ddod; bydd ef yn goleuo pethau cudd y tywyllwch ac yn gwneud bwriadau'r galon yn amlwg. Ac yna caiff pob un ei glod gan Dduw. Yr wyf wedi cymhwyso'r pethau hyn, gyfeillion, ataf fi fy hun ac at Apolos er eich mwyn chwi, ichwi ddysgu, drwom ni, “gadw o fewn yr hyn a ysgrifennwyd”, rhag i neb ohonoch ymchwyddo wrth bleidio un a gwrthod y llall.
1 Corinthiaid 4:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw. A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall.