1 Corinthiaid 3:7-11
1 Corinthiaid 3:7-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dydy’r plannwr a’r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy’n rhoi’r tyfiant. Mae’r plannwr a’r dyfriwr eisiau’r un peth. A bydd y ddau’n cael eu talu am eu gwaith eu hunain. Dŷn ni’n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy’r maes mae Duw wedi’i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad – fi gafodd y fraint a’r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi’r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai dim ond un sylfaen sy’n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.
1 Corinthiaid 3:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant. Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei dâl ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi. Yn ôl y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni. Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno.
1 Corinthiaid 3:7-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd. Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys cyd-weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi. Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu. Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.