1 Corinthiaid 3:5-9
1 Corinthiaid 3:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd. Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant. Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant. Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei dâl ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi.
1 Corinthiaid 3:5-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi’i ddweud wrthon ni. Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni! Dydy’r plannwr a’r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy’n rhoi’r tyfiant. Mae’r plannwr a’r dyfriwr eisiau’r un peth. A bydd y ddau’n cael eu talu am eu gwaith eu hunain. Dŷn ni’n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy’r maes mae Duw wedi’i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad
1 Corinthiaid 3:5-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un? Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd. Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys cyd-weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.