1 Corinthiaid 2:14-16
1 Corinthiaid 2:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu. Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni chânt hwy eu barnu gan neb. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, i'w gyfarwyddo?” Ond y mae meddwl Crist gennym ni.
1 Corinthiaid 2:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy’r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw’n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall. Os ydy’r Ysbryd gynnon ni, mae’r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni: “Pwy sy’n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy’n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae’r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.
1 Corinthiaid 2:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.