1 Corinthiaid 2:11-16
1 Corinthiaid 2:11-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pwy sy’n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy’r unig un sy’n gwybod beth sydd ar feddwl Duw. A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni. A dyma’r union neges dŷn ni’n ei rhannu – dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni’n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd. Os ydy’r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw’n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall. Os ydy’r Ysbryd gynnon ni, mae’r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni: “Pwy sy’n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy’n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae’r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.
1 Corinthiaid 2:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw. Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni. Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd. Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu. Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni chânt hwy eu barnu gan neb. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, i'w gyfarwyddo?” Ond y mae meddwl Crist gennym ni.
1 Corinthiaid 2:11-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw. A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw. Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.