1 Corinthiaid 2:10-11
1 Corinthiaid 2:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi’i esbonio i ni – ac mae’r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd! Pwy sy’n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy’r unig un sy’n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.
1 Corinthiaid 2:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw. Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw.
1 Corinthiaid 2:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw.