1 Corinthiaid 15:54-58
1 Corinthiaid 15:54-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: “Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth. O angau, ble mae dy fuddugoliaeth? O angau, ble mae dy golyn?” Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith. Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.
1 Corinthiaid 15:54-58 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fydd hynny’n digwydd, bydd beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi’i lyncu yn y fuddugoliaeth.” “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” Pechod ydy’r pigiad gwenwynig sy’n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o’r Gyfraith. Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni! Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi’n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i’r Arglwydd ddim yn wastraff amser.
1 Corinthiaid 15:54-58 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.