1 Corinthiaid 15:53-57
1 Corinthiaid 15:53-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: “Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth. O angau, ble mae dy fuddugoliaeth? O angau, ble mae dy golyn?” Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith. Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
1 Corinthiaid 15:53-57 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhaid i ni, sydd â chorff sy’n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy’n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb! Pan fydd hynny’n digwydd, bydd beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi’i lyncu yn y fuddugoliaeth.” “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” Pechod ydy’r pigiad gwenwynig sy’n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o’r Gyfraith. Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni!
1 Corinthiaid 15:53-57 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.