1 Corinthiaid 15:51-57
1 Corinthiaid 15:51-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf. Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw'n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid. Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: “Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth. O angau, ble mae dy fuddugoliaeth? O angau, ble mae dy golyn?” Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith. Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
1 Corinthiaid 15:51-57 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch – dw i’n rhannu rhywbeth sy’n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid – a hynny’n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy’n fyw yn cael ein trawsffurfio. Rhaid i ni, sydd â chorff sy’n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy’n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb! Pan fydd hynny’n digwydd, bydd beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi’i lyncu yn y fuddugoliaeth.” “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” Pechod ydy’r pigiad gwenwynig sy’n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o’r Gyfraith. Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni!
1 Corinthiaid 15:51-57 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.