1 Corinthiaid 15:51-52
1 Corinthiaid 15:51-52 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir.
1 Corinthiaid 15:51-52 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch – dw i’n rhannu rhywbeth sy’n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid – a hynny’n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy’n fyw yn cael ein trawsffurfio.
1 Corinthiaid 15:51-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf. Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw'n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid.