Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 15:35-58

1 Corinthiaid 15:35-58 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Ond wedyn dw i’n clywed rhywun yn gofyn, “Sut mae’r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi? Sut fath o gorff fydd ganddyn nhw?” Am gwestiwn dwl! Dydy planhigyn byw ddim yn tyfu heb i beth sy’n cael ei hau yn y ddaear farw. A dim yr hyn sy’n tyfu dych chi’n ei blannu, ond hedyn bach noeth – gwenith falle, neu rywbeth arall. Ond mae Duw yn rhoi ‘corff’ newydd iddo, fel mae’n dewis. Mae gwahanol blanhigion yn tyfu o wahanol hadau. A dydy corff pob creadur byw ddim yr un fath chwaith: mae gan bobl un math o gorff, ac anifeiliaid fath arall, mae adar yn wahanol eto, a physgod yn wahanol. Ac mae yna hefyd gyrff nefol a chyrff daearol. Mae harddwch y gwahanol gyrff nefol yn amrywio, ac mae harddwch y gwahanol gyrff daearol yn amrywio. Mae gwahaniaeth rhwng disgleirdeb yr haul a disgleirdeb y lleuad, ac mae’r sêr yn wahanol eto; yn wir mae gwahaniaeth rhwng un seren a’r llall. Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw’n atgyfodi. Mae’r corff sy’n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod. Pan mae’n cael ei osod yn y ddaear mae’n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae’n cael ei ‘hau’ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym! Corff dynol cyffredin sy’n cael ei ‘hau’, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae’r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy’n rhoi bywyd i eraill. Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a’r un ysbrydol yn ei ddilyn. Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o’r nefoedd. Mae gan bob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy’n perthyn i’r nefoedd gorff nefol fel y Meseia. Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i’r dyn o’r ddaear, byddwn ni’n debyg i’r dyn o’r nefoedd. Dyma dw i’n ei ddweud, frodyr a chwiorydd annwyl – all cig a gwaed ddim perthyn i deyrnas Dduw. All y corff sy’n darfod ddim bodoli yn y deyrnas sydd byth yn mynd i ddarfod. Gwrandwch – dw i’n rhannu rhywbeth sy’n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid – a hynny’n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy’n fyw yn cael ein trawsffurfio. Rhaid i ni, sydd â chorff sy’n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy’n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb! Pan fydd hynny’n digwydd, bydd beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi’i lyncu yn y fuddugoliaeth.” “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” Pechod ydy’r pigiad gwenwynig sy’n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o’r Gyfraith. Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni! Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi’n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i’r Arglwydd ddim yn wastraff amser.

1 Corinthiaid 15:35-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ond bydd rhywun yn dweud: “Pa fodd y mae'r meirw'n cael eu cyfodi? Â pha fath gorff y byddant yn dod?” Y ffŵl! Beth am yr had yr wyt ti yn ei hau? Ni roddir bywyd iddo heb iddo farw yn gyntaf. A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall. Ond Duw, yn ôl ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o'r hadau ei gorff ei hun. Oherwydd nid yr un cnawd yw pob cnawd, ond un peth yw cnawd dynion, peth arall yw cnawd anifeiliaid, peth arall yw cnawd adar, a pheth arall yw cnawd pysgod. Y mae hefyd gyrff nefol a chyrff daearol, ond un peth yw gogoniant y rhai nefol, a pheth gwahanol yw gogoniant y rhai daearol. Un peth yw gogoniant yr haul, a pheth arall yw gogoniant y lloer, a pheth arall yw gogoniant y sêr. Yn wir, y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth. Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef. Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol. Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd. Eithr nid yr ysbrydol sy'n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna'r ysbrydol. Y dyn cyntaf, o'r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o'r nef y mae. Y mae'r rhai sydd o'r llwch yn debyg i'r dyn o'r llwch, ac y mae'r rhai sydd o'r nef yn debyg i'r dyn o'r nef. Ac fel y bu delw'r dyn o'r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw'r dyn o'r nef arnom. Hyn yr wyf yn ei olygu, gyfeillion: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth. Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf. Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw'n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid. Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: “Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth. O angau, ble mae dy fuddugoliaeth? O angau, ble mae dy golyn?” Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith. Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.

1 Corinthiaid 15:35-58 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorff y deuant? O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. A’r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar. Y mae hefyd gyrff nefol, a chyrff daearol: ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol. Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol. Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol. Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau. Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol. Y dyn cyntaf o’r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o’r nef. Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd