1 Corinthiaid 15:20-22
1 Corinthiaid 15:20-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi. Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. Mae pawb yn marw am eu bod nhw’n perthyn i Adda, ond mae pawb sy’n perthyn i’r Meseia yn cael bywyd newydd.
1 Corinthiaid 15:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist.
1 Corinthiaid 15:20-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw. Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb.