1 Corinthiaid 15:1-8
1 Corinthiaid 15:1-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau’ch atgoffa chi’n llawn o’r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma’r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy’n sylfaen i’ch ffydd chi. Dyma’r newyddion da sy’n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i’n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‘credu’ heb wir feddwl beth roeddech chi’n ei wneud. Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Yna ei fod wedi’i gladdu, a’i fod wedi’i godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae’r ysgrifau’n dweud. Wedyn bod Pedr wedi’i weld, a’r deuddeg disgybl. Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o’n brodyr a’n chwiorydd ni sy’n credu! Mae’r rhan fwya ohonyn nhw’n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw. Yna gwelodd Iago fe, a’i gynrychiolwyr eraill i gyd. Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‘erthyl’ o apostol.
1 Corinthiaid 15:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch. Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg. Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith—ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion. Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol.
1 Corinthiaid 15:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau; A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau; A’i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg. Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig.