Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 15:1-19

1 Corinthiaid 15:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau’ch atgoffa chi’n llawn o’r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma’r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy’n sylfaen i’ch ffydd chi. Dyma’r newyddion da sy’n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i’n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‘credu’ heb wir feddwl beth roeddech chi’n ei wneud. Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Yna ei fod wedi’i gladdu, a’i fod wedi’i godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae’r ysgrifau’n dweud. Wedyn bod Pedr wedi’i weld, a’r deuddeg disgybl. Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o’n brodyr a’n chwiorydd ni sy’n credu! Mae’r rhan fwya ohonyn nhw’n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw. Yna gwelodd Iago fe, a’i gynrychiolwyr eraill i gyd. Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‘erthyl’ o apostol. Fi ydy’r un lleia pwysig o’r holl rai ddewisodd y Meseia i’w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu’r enw ‘apostol’, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw. Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, drwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio’n galetach na’r lleill i gyd – nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi. Beth bynnag, does dim gwahaniaeth os mai fi neu nhw sy’n gwneud y cyhoeddi – dyma’r neges sy’n cael ei chyhoeddi a dyma dych chi wedi’i gredu. Os ydyn ni’n cyhoeddi fod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy’r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith. Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy’r newyddion da sy’n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi’n ei gredu yn gwbl ddiystyr! Bydd hi’n dod yn amlwg ein bod ni sy’n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden ni’n tystio bod Duw wedi codi’r Meseia yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy’n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi. Os ydy’r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn ôl yn fyw chwaith. Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi’n ei gredu’n wastraff amser – dych chi’n dal yn gaeth i’ch pechodau. Ac os felly, mae’r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd. Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni’n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i’n pitïo’n fwy na neb!

1 Corinthiaid 15:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch. Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg. Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith—ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion. Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol. Oherwydd y lleiaf o'r apostolion wyf fi, un nad wyf deilwng i'm galw yn apostol, gan imi erlid eglwys Dduw. Ond trwy ras Duw yr wyf yr hyn ydwyf, ac ni bu ei ras ef tuag ataf yn ofer. Yn wir, mi lafuriais yn helaethach na hwy i gyd—eto nid myfi, ond gras Duw, a oedd gyda mi. Ond p'run bynnag ai myfi ai hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwithau. Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw? Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi, a ninnau hefyd wedi ein cael yn dystion twyllodrus i Dduw, am ein bod wedi tystiolaethu iddo gyfodi Crist—ac yntau heb wneud hynny, os yw'n wir nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi. Oherwydd os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd. Y mae'n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt. Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb.

1 Corinthiaid 15:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau; A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau; A’i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg. Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig. Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi. Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt-hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi. Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist. Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni.