Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 14:1-25

1 Corinthiaid 14:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy’n dod o’r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo. Siarad â Duw mae rhywun sy’n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy’n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy’n cael eu dweud yn yr Ysbryd. Ond mae’r person sy’n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae’n eu helpu nhw i dyfu’n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw. Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i’r un sy’n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys. Dw i’n falch dros bob un ohonoch chi sy’n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai’n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw’n helpu’r eglwys, mae’r rhai sy’n proffwydo yn gwneud peth gwell na’r rhai sy’n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy’n cael ei ddweud!) Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny’n dda i ddim. Byddai’n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi’i ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi. Mae’r un fath ag offerynnau cerdd: mae ffliwt neu delyn yn gallu gwneud sŵn, ond sut mae disgwyl i rywun nabod yr alaw oni bai fod nodau gwahanol? Neu meddyliwch am utgorn yn canu – os ydy’r sain ddim yn glir, pwy sy’n mynd i baratoi i fynd i ryfel? Mae’r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi’n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad â’r gwynt! Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun. Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a’r un sy’n siarad yn estroniaid i’n gilydd! Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi’n frwd i brofi beth mae’r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o’r pethau hynny sy’n adeiladu cymdeithas yr eglwys. Felly, dylai’r person sy’n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae’n ei ddweud. Os dw i’n siarad mewn iaith ddieithr, dw i’n gweddïo’n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth. Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda’r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda’r meddwl hefyd. Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti’n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti’n diolch amdano? – dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti’n ddweud! Mae’n siŵr bod dy ddiolch di’n ddigon didwyll, ond dydy e’n gwneud dim lles i neb arall. Mae gen i’r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw. Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai’n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr. Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni’n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion. “Mae wedi’i ysgrifennu yn y Gyfraith: ‘Bydda i’n siarad â’r bobl yma mewn ieithoedd dieithr, drwy’r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud – ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,’ meddai’r Arglwydd. Arwydd i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i’r rhai sy’n credu. Ond mae proffwydoliaeth i’r rhai sy’n credu, nid i’r rhai sydd ddim yn credu.” Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae’r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy’n mynd ymlaen yn dod i mewn, oni fyddan nhw’n meddwl eich bod chi’n hollol wallgof? Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw’n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn. Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i’r wyneb, a byddan nhw’n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae’n wir! – mae Duw yn eich plith chi!”

1 Corinthiaid 14:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dilynwch gariad yn daer, a rhowch eich bryd ar y doniau ysbrydol, yn enwedig dawn proffwydo. Oherwydd y mae'r sawl sydd yn llefaru â thafodau yn llefaru, nid wrth bobl, ond wrth Dduw. Nid oes unrhyw un yn ei ddeall; llefaru pethau dirgel y mae, yn yr Ysbryd. Ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn llefaru wrth bobl bethau sy'n eu hadeiladu a'u calonogi a'u cysuro. Y mae'r sawl sy'n llefaru â thafodau yn ei adeiladu ei hun, ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn adeiladu'r eglwys. Mi hoffwn ichwi i gyd lefaru â thafodau, ond yn fwy byth ichwi broffwydo. Y mae'r sawl sy'n proffwydo yn well na'r sawl sy'n llefaru â thafodau, os na all ddehongli'r hyn y mae'n ei ddweud, er mwyn i'r eglwys gael adeiladaeth. Yn awr, gyfeillion, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, os na ddywedaf rywbeth wrthych sy'n ddatguddiad, neu'n wybodaeth, neu'n broffwydoliaeth, neu'n hyfforddiant? Ystyriwch offerynnau difywyd sy'n cynhyrchu sŵn, fel ffliwt neu delyn; os na seiniant eu nodau eglur eu hunain, sut y mae gwybod beth sy'n cael ei ganu arnynt? Ac os yw'r utgorn yn rhoi nodyn aneglur, pwy sy'n mynd i'w arfogi ei hun i frwydr? Felly chwithau: wrth lefaru â thafodau, os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir? Malu awyr y byddwch. Mor niferus yw'r mathau o ieithoedd sydd yn y byd! Ac nid oes unman heb iaith. Ond os nad wyf yn deall ystyr y siaradwr, byddaf yn farbariad aflafar iddo, ac yntau i minnau. Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys. Felly, bydded i'r sawl sy'n llefaru â thafodau weddïo am y gallu i ddehongli. Oherwydd os byddaf yn gweddïo â thafodau, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy meddwl yn ddiffrwyth. Beth a wnaf, felly? Mi weddïaf â'm hysbryd, ond mi weddïaf â'm deall hefyd. Mi ganaf â'r ysbryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd. Onid e, os byddi'n moliannu â'r ysbryd, pa fodd y gall rhywun sydd heb ei hyfforddi ddweud yr “Amen” i'r diolch yr wyt yn ei roi, os nad yw'n deall beth yr wyt yn ei ddweud? Yr wyt ti'n wir yn rhoi'r diolch yn ddigon da, ond nid yw'r llall yn cael ei adeiladu. Diolch i Dduw, yr wyf fi'n llefaru â thafodau yn fwy na chwi i gyd. Ond yn yr eglwys, y mae'n well gennyf lefaru pum gair â'm deall, er mwyn hyfforddi eraill, na deng mil o eiriau â thafodau. Fy nghyfeillion, peidiwch â bod yn blantos o ran deall; byddwch yn fabanod o ran drygioni, ond yn aeddfed o ran deall. Y mae'n ysgrifenedig yn y Gyfraith: “ ‘Trwy rai o dafodau dieithr, ac â gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac eto ni wrandawant arnaf,’ medd yr Arglwydd.” Arwyddion yw tafodau, felly, nid i gredinwyr, ond i anghredinwyr; ond proffwydoliaeth, nid i anghredinwyr y mae, ond i gredinwyr. Felly, pan ddaw holl aelodau'r eglwys ynghyd i'r un lle, os bydd pawb yn llefaru â thafodau, a phobl heb eu hyfforddi, neu anghredinwyr, yn dod i mewn, oni ddywedant eich bod yn wallgof? Ond os bydd pawb yn proffwydo, ac anghredadun neu rywun heb ei hyfforddi yn dod i mewn, fe'i hargyhoeddir gan bawb, a'i ddwyn i farn gan bawb; daw pethau cuddiedig ei galon i'r amlwg, ac felly bydd yn syrthio ar ei wyneb ac yn addoli Duw a dweud, “Y mae Duw yn wir yn eich plith.”

1 Corinthiaid 14:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dilynwch gariad, a deisyfwch ddoniau ysbrydol; ond yn hytrach fel y proffwydoch. Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau. Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur. Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys. Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth. Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth? Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn? Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel? Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar. Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru, a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad. Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys. Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu. Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. Beth gan hynny? Mi a weddïaf â’r ysbryd, ac a weddïaf â’r deall hefyd: canaf â’r ysbryd, a chanaf â’r deall hefyd. Canys os bendithi â’r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu. Yr ydwyf yn diolch i’m Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll: Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr. O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith. Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd. Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di-gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di-gred, ond i’r rhai sydd yn credu. Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi-gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu? Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di-gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb: Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch.