1 Corinthiaid 13:9-12
1 Corinthiaid 13:9-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedi’r cwbl, ychydig dŷn ni’n ei wybod a dydy’n proffwydo ni ddim yn dweud popeth chwaith. Pan fydd beth sy’n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi rhyw gipolwg bach i ni yn cael eu hysgubo o’r neilltu. Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu’n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn. A dyna sut mae hi – dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni’n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i’n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i.
1 Corinthiaid 13:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd anghyflawn yw ein gwybod ni, ac anghyflawn ein proffwydo ni. Ond pan ddaw'r hyn sy'n gyflawn, fe ddiddymir yr hyn sy'n anghyflawn. Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau'r plentyn. Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny'n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod.
1 Corinthiaid 13:9-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo. Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir. Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd. Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir.