1 Corinthiaid 13:12-13
1 Corinthiaid 13:12-13 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
A dyna sut mae hi – dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni’n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i’n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i. Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy’n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad.
1 Corinthiaid 13:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny'n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod. Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A'r mwyaf o'r rhain yw cariad.
1 Corinthiaid 13:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir. Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.