1 Corinthiaid 10:1-13
1 Corinthiaid 10:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd, fod ein hynafiaid ni i gyd wedi bod dan y cwmwl, ac roedd pob un ohonyn nhw wedi mynd drwy’r môr. Cafodd pob un ohonyn nhw eu ‘bedyddio’ fel dilynwyr Moses yn y cwmwl a’r môr. Cafodd pob un ohonyn nhw fwyta yr un bwyd ysbrydol ac yfed yr un dŵr ysbrydol. Roedden nhw’n yfed o’r graig ysbrydol oedd yn teithio gyda nhw – a’r Meseia oedd y graig honno. Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw – “buon nhw farw yn yr anialwch.” Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i’n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw. Maen nhw’n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy’n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.” Maen nhw’n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda’r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod! Maen nhw’n rhybudd i ni beidio rhoi’r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd. Ac maen nhw’n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i’n rhybuddio ni sy’n byw ar ddiwedd yr oesoedd. Felly, os dych chi’n un o’r rhai sy’n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio! Dydy’r temtasiynau dych chi’n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi’ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.
1 Corinthiaid 10:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, i'n hynafiaid i gyd fod dan y cwmwl, iddynt i gyd fynd drwy'r môr, iddynt i gyd gael eu bedyddio i Moses yn y cwmwl ac yn y môr, iddynt i gyd fwyta'r un bwyd ysbrydol ac yfed yr un ddiod ysbrydol; oherwydd yr oeddent yn yfed o'r graig ysbrydol oedd yn eu dilyn. A Christ oedd y graig honno. Eto nid oedd y rhan fwyaf ohonynt wrth fodd Duw; oherwydd fe'u gwasgarwyd hwy'n gyrff yn yr anialwch. Digwyddodd y pethau hyn yn esiamplau i ni, i'n rhybuddio rhag chwenychu pethau drwg, fel y gwnaethant hwy. Peidiwch â bod yn eilunaddolwyr, fel rhai ohonynt hwy; fel y mae'n ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, a chodi i gyfeddach.” Peidiwn chwaith â chyflawni anfoesoldeb rhywiol, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—a syrthiodd tair mil ar hugain mewn un diwrnod. Peidiwn â gosod Crist ar ei brawf, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—ac fe'u difethwyd gan seirff. Peidiwch â grwgnach, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—ac fe'u difethwyd gan y Dinistrydd. Yn awr, digwyddodd y pethau hyn iddynt hwy fel esiamplau, ac fe'u hysgrifennwyd fel rhybudd i ni, rhai y daeth terfyn yr oesoedd arnom. Felly, bydded i'r sawl sy'n tybio ei fod yn sefyll, wylio rhag iddo syrthio. Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i bawb. Y mae Duw'n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano.
1 Corinthiaid 10:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr; A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol; Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist. Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy. Ac na fyddwch eilun-addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff. Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd. A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.