1 Corinthiaid 1:27-31
1 Corinthiaid 1:27-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy’n dal grym. Dewisodd y bobl sy’n ‘neb’, y bobl hynny mae’r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ‘rhywun’. Does gan neb le i frolio o flaen Duw! Fe sydd wedi’i gwneud hi’n bosib i chi berthyn i’r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i’w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy’n ein gwneud ni’n iawn gyda Duw. Mae’n ein gwneud ni’n lân ac yn bur, ac mae wedi talu’r pris i’n rhyddhau ni o afael pechod. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae’r Arglwydd wedi’i wneud.”
1 Corinthiaid 1:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw. Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth. Felly, fel y mae'n ysgrifenedig, “Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”
1 Corinthiaid 1:27-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn; A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd: Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth: Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.