1 Corinthiaid 1:26-27
1 Corinthiaid 1:26-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi’n bobl arbennig o glyfar, na dylanwadol, na phwysig. Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy’n dal grym.
1 Corinthiaid 1:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn ôl safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel. Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn
1 Corinthiaid 1:26-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd: Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn