1 Corinthiaid 1:20-30
1 Corinthiaid 1:20-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ble mae’r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae’r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp! Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio’u clyfrwch eu hunain i ddod i’w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‘twpdra’r’ neges dŷn ni’n ei chyhoeddi i achub y rhai sy’n credu. Mae’r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a’r cwbl mae’r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy’n swnio’n glyfar. Felly pan dŷn ni’n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae’r fath syniad yn sarhad i’r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill. Ond i’r rhai mae Duw wedi’u galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia sy’n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw. Mae ‘twpdra’ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‘gwendid’ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl. Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi’n bobl arbennig o glyfar, na dylanwadol, na phwysig. Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy’n dal grym. Dewisodd y bobl sy’n ‘neb’, y bobl hynny mae’r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ‘rhywun’. Does gan neb le i frolio o flaen Duw! Fe sydd wedi’i gwneud hi’n bosib i chi berthyn i’r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i’w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy’n ein gwneud ni’n iawn gyda Duw. Mae’n ein gwneud ni’n lân ac yn bur, ac mae wedi talu’r pris i’n rhyddhau ni o afael pechod.
1 Corinthiaid 1:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb? Oherwydd gan fod y byd, yn noethineb Duw, wedi methu adnabod Duw trwy ei ddoethineb ei hun, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn yr ydym ni yn ei bregethu achub y rhai sydd yn credu. Y mae'r Iddewon yn gofyn am arwyddion, a'r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb. Eithr nyni, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i'r Iddewon ac yn ffolineb i'r Cenhedloedd; ond i'r rhai a alwyd, yn Iddewon a Groegiaid, y mae'n Grist, gallu Duw a doethineb Duw. Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol. Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn ôl safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel. Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw. Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth.
1 Corinthiaid 1:20-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb: Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb; Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion. Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd: Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn; A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd: Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth