1 Corinthiaid 1:20-25
1 Corinthiaid 1:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb? Oherwydd gan fod y byd, yn noethineb Duw, wedi methu adnabod Duw trwy ei ddoethineb ei hun, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn yr ydym ni yn ei bregethu achub y rhai sydd yn credu. Y mae'r Iddewon yn gofyn am arwyddion, a'r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb. Eithr nyni, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i'r Iddewon ac yn ffolineb i'r Cenhedloedd; ond i'r rhai a alwyd, yn Iddewon a Groegiaid, y mae'n Grist, gallu Duw a doethineb Duw. Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol.
1 Corinthiaid 1:20-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ble mae’r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae’r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp! Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio’u clyfrwch eu hunain i ddod i’w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‘twpdra’r’ neges dŷn ni’n ei chyhoeddi i achub y rhai sy’n credu. Mae’r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a’r cwbl mae’r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy’n swnio’n glyfar. Felly pan dŷn ni’n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae’r fath syniad yn sarhad i’r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill. Ond i’r rhai mae Duw wedi’u galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia sy’n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw. Mae ‘twpdra’ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‘gwendid’ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.
1 Corinthiaid 1:20-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb: Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb; Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.