1 Corinthiaid 1:12-13
1 Corinthiaid 1:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr hyn a olygaf yw fod pob un ohonoch yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, neu, “Minnau, i blaid Apolos”, neu, “Minnau, i blaid Ceffas”, neu, “Minnau, i blaid Crist”. A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul?
1 Corinthiaid 1:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae un ohonoch chi’n dweud, “Paul dw i’n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i’n ei ddilyn,” neu, “Dw i’n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i’n ei ddilyn”! Ydy hi’n bosib rhannu’r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi’ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na!
1 Corinthiaid 1:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist. A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi?