Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 1:1-17

1 Corinthiaid 1:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw a’m galw i fod yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. A gan y brawd Sosthenes hefyd. At eglwys Dduw yn Corinth. Dych chi wedi’ch neilltuo gan Dduw i berthynas â’r Meseia Iesu. Dych chi wedi’ch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall – sef pawb ym mhobman sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe sy’n Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i’r Meseia Iesu. Mae wedi’ch gwneud chi’n gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, a’ch gwybodaeth ysbrydol. Mae’r neges am y Meseia wedi gwreiddio’n ddwfn yn eich bywydau chi. Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chi’n disgwyl i’r Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl. Bydd e’n eich cadw chi’n ffyddlon i’r diwedd un. Mae e am i chi fod yn ddi-fai ar y diwrnod mawr pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae’n gwneud beth mae’n ei ddweud. Fe sydd wedi’ch galw chi i rannu bywyd gyda’i Fab, y Meseia Iesu ein Harglwydd ni. Frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist – stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi’ch rhannu’n ‘ni’ a ‘nhw’. Dw i’n gwybod y cwbl amdanoch chi – mae rhai o bobl Chloe wedi dweud wrtho i am yr holl gecru yn eich plith chi. Mae un ohonoch chi’n dweud, “Paul dw i’n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i’n ei ddilyn,” neu, “Dw i’n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i’n ei ddilyn”! Ydy hi’n bosib rhannu’r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi’ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na! Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius. Felly all neb ohonoch chi ddweud eich bod wedi cael eich bedyddio i’m henw i! (O ie, fi fedyddiodd y rhai o dŷ Steffanas hefyd; ond dw i’n reit siŵr mod i ddim wedi bedyddio neb arall.) Cyhoeddi’r newyddion da ydy’r gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trio bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll.

1 Corinthiaid 1:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, apostol Crist Iesu trwy alwad a thrwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes, at eglwys Dduw sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, ac sydd trwy alwad Duw yn saint, ynghyd â phawb ym mhob man sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, eu Harglwydd hwy a ninnau. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser amdanoch chwi, ar gyfrif y gras dwyfol a roddwyd ichwi yng Nghrist Iesu, am eich cyfoethogi ynddo ef ym mhob peth, ym mhob ymadrodd a phob gwybodaeth, fel bod y dystiolaeth am Grist wedi ei chadarnhau yn eich plith. Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist. Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni. Yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, ar i chwi oll fod yn gytûn; na foed ymraniadau yn eich plith, ond byddwch wedi eich cyfannu yn yr un meddwl a'r un farn. Oherwydd hysbyswyd fi amdanoch, fy nghyfeillion, gan rai o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith. Yr hyn a olygaf yw fod pob un ohonoch yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, neu, “Minnau, i blaid Apolos”, neu, “Minnau, i blaid Ceffas”, neu, “Minnau, i blaid Crist”. A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul? Yr wyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb ohonoch ond Crispus a Gaius; peidied neb â dweud i chwi gael eich bedyddio i'm henw i. O do, mi fedyddiais deulu Steffanas hefyd. Heblaw hynny, ni wn a fedyddiais i neb arall. Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid â doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.

1 Corinthiaid 1:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes, At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o’r eiddynt hwy a ninnau: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch: Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist: Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni. Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn. Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist. A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi? Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius; Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun. Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall. Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.