1 Cronicl 29:8-9
1 Cronicl 29:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma pawb yn cyfrannu eu gemau gwerthfawr i drysordy teml yr ARGLWYDD hefyd, oedd dan ofal Iechiel o deulu Gershon. Roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi’i gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi. Roedd y Brenin Dafydd hefyd wrth ei fodd.
1 Cronicl 29:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd pob un a feddai emau gwerthfawr yn eu rhoi yn nhrysordy tŷ'r ARGLWYDD a oedd dan ofal Jehiel y Gersoniad. Yr oedd eu haelioni yn achos llawenydd i'r bobl am eu bod yn offrymu i'r ARGLWYDD o'u gwirfodd ac â chalon berffaith.
1 Cronicl 29:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chyda’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr ARGLWYDD, trwy law Jehiel y Gersoniad. A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.