1 Cronicl 29:11-12
1 Cronicl 29:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, ti ydy’r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy’n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a’r ddaear! Ti ydy’r un sy’n ben ar y cwbl i gyd! Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy’n rheoli’r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy’n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw’n enwog.
1 Cronicl 29:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl. Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.
1 Cronicl 29:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.