1 Cronicl 22:11-13
1 Cronicl 22:11-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Nawr, fy mab, boed i’r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i’r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e. A boed i’r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di’n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw. Byddi’n siŵr o lwyddo os byddi’n cadw’n ofalus y rheolau a’r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn na phanicio.
1 Cronicl 22:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, er mwyn i ti lwyddo wrth adeiladu tŷ'r ARGLWYDD dy Dduw fel y dywedodd ef amdanat. Rhodded yr ARGLWYDD i ti hefyd ddoethineb a deall, pan rydd i ti awdurdod dros Israel, er mwyn iti gadw cyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw. Yna, os cedwi'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn ag Israel, fe lwyddi. Bydd yn gryf a dewr; paid ag ofni na bod yn wangalon.
1 Cronicl 22:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti. Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW. Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda.