Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 22:1-19

1 Cronicl 22:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd Dafydd, “Hwn fydd tŷ'r ARGLWYDD Dduw, ac allor y poethoffrwm i Israel.” Rhoddodd Dafydd orchymyn i gasglu'r dieithriaid oedd yng ngwlad Israel, a phenododd seiri maen i baratoi cerrig i adeiladu tŷ Dduw. Fe baratôdd hefyd lawer o haearn i wneud hoelion ar gyfer drysau'r pyrth a'r cysylltiadau, a chymaint o bres fel nad oedd modd ei bwyso; darparodd hefyd goed cedrwydd di-rif, oherwydd bod y Sidoniaid a'r Tyriaid wedi dod â llawer ohonynt iddo. Ac meddai Dafydd, “Y mae Solomon fy mab yn ifanc a dibrofiad, a rhaid i'r tŷ a adeiledir i'r ARGLWYDD fod yn uwch, yn enwocach ac yn fwy gogoneddus na'r un arall trwy'r holl wledydd; felly dechreuaf baratoi ar ei gyfer.” Ac fe baratôdd Dafydd yn helaeth cyn iddo farw. Yna galwodd ar Solomon ei fab, a'i orchymyn i adeiladu tŷ i ARGLWYDD Dduw Israel, gan ddweud wrtho, “Fy mab, yr oeddwn â'm bryd ar adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw, ond daeth gair yr ARGLWYDD ataf gan ddweud, ‘Yr wyt wedi tywallt llawer o waed ac ymladd brwydrau mawr; ni chei di adeiladu tŷ i mi, am iti dywallt llawer o waed ar y ddaear yn fy ngŵydd i. Ond edrych, genir iti fab a fydd yn ŵr heddychlon, ac mi roddaf iddo lonydd oddi wrth yr holl elynion o'i amgylch. Solomon fydd ei enw, a rhoddaf heddwch a thangnefedd i Israel yn ei oes ef. Ef fydd yn adeiladu tŷ i'm henw. Bydd ef yn fab i mi a minnau'n dad iddo yntau; gwnaf orsedd ei frenhiniaeth ar Israel yn gadarn am byth.’ Yn awr, fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, er mwyn i ti lwyddo wrth adeiladu tŷ'r ARGLWYDD dy Dduw fel y dywedodd ef amdanat. Rhodded yr ARGLWYDD i ti hefyd ddoethineb a deall, pan rydd i ti awdurdod dros Israel, er mwyn iti gadw cyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw. Yna, os cedwi'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn ag Israel, fe lwyddi. Bydd yn gryf a dewr; paid ag ofni na bod yn wangalon. Edrych, er fy mod yn dlawd, rhoddais ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD gan mil o dalentau aur a miliwn o dalentau arian, a chymaint o bres a haearn fel nad oedd modd eu pwyso am fod cymaint ohonynt, a choed a cherrig yn ogystal. Ychwanega dithau atynt. Y mae gennyt lawer iawn o weithwyr, yn naddwyr, seiri maen a seiri coed, ac eraill yn gallu gwneud pob math o waith; a bydd yr aur, yr arian, y pres a'r haearn yn aneirif. Cod a gweithia, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi.” Gorchmynnodd Dafydd i holl arweinwyr Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddweud, “Onid yw'r ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? Onid yw wedi rhoi llonydd i chwi oddi wrth bawb o'ch cwmpas? Yn wir, y mae wedi rhoi pobl y wlad yn fy llaw, a darostyngwyd y wlad o flaen yr ARGLWYDD a'i bobl. Yn awr ymrowch, galon ac enaid, i geisio'r ARGLWYDD eich Duw. Codwch ac adeiladwch gysegr yr ARGLWYDD Dduw, er mwyn dod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD a llestri cysegredig Duw i'r tŷ a adeiledir i enw'r ARGLWYDD.”

1 Cronicl 22:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Dafydd yn dweud, “Dyma’r safle lle bydd teml yr ARGLWYDD Dduw, a’r allor i losgi aberthau dros Israel.” Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i gasglu’r mewnfudwyr oedd yn byw yng ngwlad Israel at ei gilydd. Dyma fe’n penodi seiri maen i baratoi cerrig ar gyfer adeiladu teml Dduw. A dyma fe’n casglu lot fawr o haearn i wneud hoelion a cholfachau ar gyfer y drysau, a chymaint o efydd, doedd dim posib ei bwyso. Doedd dim posib cyfri’r holl goed cedrwydd chwaith. (Roedd pobl Sidon a Tyrus wedi dod â llawer iawn ohono iddo.) “Mae Solomon, fy mab, yn ifanc ac yn ddibrofiad,” meddai Dafydd. “Mae’n rhaid i’r deml fydd yn cael ei hadeiladu i’r ARGLWYDD fod mor wych, bydd yn enwog ac yn cael ei hedmygu drwy’r byd i gyd. Dyna pam dw i’n paratoi ar ei chyfer.” Felly roedd Dafydd wedi gwneud paratoadau mawr cyn iddo farw. A dyma Dafydd yn galw’i fab, Solomon, a rhoi gorchymyn iddo adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD, Duw Israel. Dwedodd wrtho, “Fy mab, roeddwn i wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD fy Nuw. Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Rwyt ti wedi lladd gormod o bobl ac wedi ymladd llawer o frwydrau. Felly gei di ddim adeiladu teml i mi, o achos yr holl waed sydd wedi’i dywallt. Ond gwranda, byddi’n cael mab, a bydd e’n ddyn heddychlon. Bydda i’n gwneud i’r holl elynion o’i gwmpas roi llonydd iddo. Ei enw fydd Solomon, a bydd Israel yn cael heddwch a thawelwch yn y cyfnod pan fydd e’n frenin. Bydd e’n adeiladu’r deml i mi. Bydd e’n fab i mi a bydda i’n dad iddo fe. Bydda i’n gwneud i’w linach deyrnasu ar Israel am byth.’ “Nawr, fy mab, boed i’r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i’r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e. A boed i’r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di’n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw. Byddi’n siŵr o lwyddo os byddi’n cadw’n ofalus y rheolau a’r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn na phanicio. Edrych, er mod i’n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a chymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di’n casglu mwy eto. Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a chrefftwyr o bob math, i weithio gydag aur, arian, efydd a haearn. Felly bwrw iddi! A boed i’r ARGLWYDD fod gyda ti!” Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i swyddogion Israel i helpu ei fab Solomon. “Mae’r ARGLWYDD, eich Duw, gyda chi! Mae wedi rhoi heddwch i’r wlad. Mae wedi rhoi’r gwledydd o’n cwmpas i mi, ac maen nhw i gyd bellach dan awdurdod yr ARGLWYDD a’i bobl. Nawr, rhowch eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD eich Duw. Ewch ati i adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD Dduw, fel y gallwch ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar holl lestri sanctaidd i’r deml fydd wedi’i hadeiladu i’w anrhydeddu”.

1 Cronicl 22:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a dyma allor y poethoffrwm i Israel. Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ DDUW. A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys; Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd. A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth. Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel. Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy NUW. Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i. Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef. Efe a adeilada dŷ i’m henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti. Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW. Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy. Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith. Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r ARGLWYDD a fydd gyda thi. A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD eich DUW gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef. Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr ARGLWYDD eich DUW; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri DUW, i’r tŷ a adeiledir i enw yr ARGLWYDD.